Mae Plaid Cymru Abertawe wedi cefnogi ymgyrch i sicrhau rhan deg o gyllid ar gyfer rheilffyrdd Cymru.
Dywedodd llefarydd Gŵyr y Blaid, John Davies, bod agwedd presennol y Trysorlys yn bolisi sinigaidd sy'n rhwystro Cymru rhag derbyn buddsoddiad sydd ei angen i wella gwasanaethau trafnidiaeth ein gwlad.
"Drwy alw'r prosiect HS2, sy'n costio £71 biliwn HS2 yn brosiect 'Lloegr a Chymru' mae llywodraeth Llundain yn osgoi ei gyfrifoldeb i sicrhau buddsoddiad cyfatebol i Gymru", meddai Mr Davies, a fu'n ymgeisydd yn etholiad Senedd Cymru yn 2021.
"Bellach, gyda chefnogaeth pob plaid yn Senedd Cymru dros safiad Plaid Cymru, dylai'r Trysorlys ryddhau'r arian sydd ei angen yng Nghymru ar unwaith."
Dydd Gwener 28 Ebrill 2023