Mae amcangyfrif bod bron hanner o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru o blaid annibyniaeth i Gymru.
Rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn deall paham - fel ni, rydych chi wedi cael llond bol o gael eich "llywodraethu" gan y Torïaid am ddwy ran o dair o'r amser.
Falle eich bod yn meddwl bod cael llywodraeth Lafur yng Nghymru'n foddhaol (cofiwch fod gyda ni gytundeb da dros bobl Cymru), ond siawns y gallwch anelu at wella "boddhaol". Drwy sicrhau bywydau gwell i'n pobl, byddai Cymru annibynnol yn newid "boddhaol" i "rhagorol".
Ond mae yna broblem. A'r broblem yw eich plaid.
Gan gynnwys Keir Starmer, fydd yr un Brif Weinidog Llafur fyth yn derbyn hyd yn oed gamau bychain tuag at annibyniaeth i Gymru. ACHOS HEB LWYTH O AELODAU SENEDDOL LLAFUR O GYMRU, FYDDWCH CHI FYTH YN ENNILL GRYM YN SAN STEFFAN.
Annibyniaeth yw'r ffordd glir at lywodraeth flaengar, chwith o'r ganol yng Nghymru, gan ein galluogi i ddefnyddio dulliau grym cyflawn er budd ein pobl - nid cyfloethogion De-ddwyrain Lloegr.
Felly ymunwch â ni ym Mhlaid Cymru - mae croeso croeso cynnes yn eich disgwyl (yn arbennig y rhai a ymunodd â Phlaid Lafur Jeremy Corbyn yn 2017).