November 28, 2025

Ail-Ymuno, Medd y Blaid

Mae ymgeisydd Plaid Cymru dros Orllewin Abertawe Dr Gwyn Williams wedi cefnogi cais ei blaid i ail-ymuno â'r Farchnad Sengl Ewropeaidd.

"Mae llywodraeth San Steffan wedi'n gwthio ni i'r ffurf fwyaf eithafol o Brexit, gan achosi niwed parhaol i'n busnesau a'n swyddi", medd Dr Williams.

"Ond, fel y dywed Michael Heseltine, mae'r Blaid Lafur a'r Torïaid fel ei gilydd am gadw'n dawel am effaith Brexit yn ystod yr etholiad yma.

"Nawr mae'r Torïaid am dalu am eu gimic etholiadol diwddaraf, gwasanaeth milwrol, gydag arian oedd ar un adeg yn rhan o gyllid Ewropeaidd i Gymru."

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts wedi sôn yn barod am adroddiad diweddar gan Cambridge Econometrics bod y dinesydd cyffredin yng ngwledydd Prydain bron £2,000 yn dlotach yn 2023 oherwydd Brexit.