November 28, 2025

Galw Am Ddatganoli'r Post

Galw Am Ddatganoli'r Post
 
Mae Plaid Cymru'n galw am ddatganoli holl wasanaethau Swyddfa'r Post a''r Post Brenhinol i Gymru ar ôl yr etholiad cyffredinol San Steffan nesaf.
 
Dylid dod â'r gwasanaethau at ei gilydd o dan faner Post Cymru, sefydliad newydd dan oruchwyliaeth Senedd Cymru, medd darpar ymgeisydd Plaid Cymru' ar gyfer Gorllewin Abertawe, y Dr Gwyn Williams.
 
"Cafodd ein postfeistri a'n postfeistresi  eu trin yn gwbl gywilyddus gan gorff estron a haerllug, ac y mae'n hen bryd iddyn nhw a phobl Cymru gael chwarae teg", medd Dr Williams.
 
"Mewn gwirionedd, mae Cymru wedi gorfod derbyn gwasanaeth eilradd ers canrif a mwy - gyda'r prif swyddi a'r gwaith dosrannu'r post wedi'u lleoli dros y ffin.
 
"Yn wyneb y driniaeth wael yma, rwy'n bendant o'r farn y dylai unrhyw iawndal ar gyfer ail-wladoli'r Bost Frenhinol fod yn ddarbodus iawn."
 
Mae'r Dr Williams yn galw ar arweinwyr y prif bleidiau gwleidyddol i gynnwys addewid i ddatganoli'r Post yn llawn ynghyd â phwerau deddfu a chyllid cyflenwol yn eu maniffestos.