Aeth nifer sylweddol o bobl Abertawe i Neuadd y Dre Castell Nedd i gwrdd ag arweinydd newydd Plaid Cymru ar noson olaf mis Gorffennaf
Bu Rhun ap Iorwerth, Aelod Senedd Cymru dros Ynys Môn, yn ateb cwestiynau am sesiwn awr a hanner - ac yn llwyddo creu argraff dda iawn ar ei gynulleidfa.
Pwysleisiodd Rhun y rôl bwysig y gallai pobl ifanc chwarae wrth arwain Cymru tuag at annibyniaeth. Dyma'r cyfarfod cyhoeddus cyntaf iddo yn Ne Orllewin Cymru ers ei ddewis yn arweinydd newydd y Blaid.
Clywodd y dorf gyfraniadau hefyd gan Sioned Williams, Aelod De Orllewin Cymru o Senedd Cymru ac Alun Llewellyn, Ystalyfera, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Castell Nedd Porth Talbot.